Text Box: Huw Irranca-Davies
 Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

14 Gorffennaf 2016

Annwyl Huw

Ystyried Goblygiadau Ariannol Bil Cymru

Yn ein cyfarfod ar 6 Gorffennaf 2016, bu'r Pwyllgor Cyllid yn ystyried goblygiadau ariannol Bil Cymru a llythyr y Llywydd at holl Aelodau Seneddol Cymru ar 5 Gorffennaf yn cynnig cyfres o welliannau i'r Bil.

Mae nifer o ddarpariaethau yn y Bil a oedd o ddiddordeb i'r Pwyllgor, yn arbennig Cymal 12 ar reolaeth ariannol, cyfrifon ac archwilio. Mae'r Pwyllgor yn ystyried bod wyth prif fater yn bodoli mewn perthynas â'r darpariaethau ariannol, ac er gwybodaeth atodaf y rhain fel Atodiad A.

 

Buom yn trafod dileu gofyniad i gynnal refferendwm i ddatganoli cyfraddau treth incwm yng Nghymru. Byddai gwelliant arfaethedig y Llywydd yn golygu y byddai pŵer y Trysorlys yn amodol ar gydsyniad drwy benderfyniad gan y Cynulliad. Trafododd y Pwyllgor a ddylai'r penderfyniad hwn fod yn destun uwch-fwyafrif a chredwn fod hwn yn faes pwysig y dylai eich Pwyllgor ei ystyried yn ogystal â'r defnydd o uwch-fwyafrif ar gyfer materion eraill o bwys arwyddocaol.

 

Roedd gan y Pwyllgor ddiddordeb hefyd yn y darpariaethau ar bwerau benthyca sydd ar gael i Lywodraeth Cymru. Mae Deddf Cymru 2014 yn rhoi pwerau benthyca i Lywodraeth Cymru fuddsoddi mewn prosiectau cyfalaf. O 2018 ymlaen, bydd Gweinidogion Cymru yn gallu benthyg hyd at £500m i fuddsoddi mewn meysydd cyfrifoldeb sydd wedi'u datganoli. Mae darpariaeth yn Neddf 2014 ar gyfer benthyca hyd at £500m i gefnogi gwariant refeniw i helpu i reoli amrywiadau cyllidebol a allai ddigwydd o ganlyniad i ddatganoli trethi.

 

Roedd y Pwyllgor a'n rhagflaenodd wedi codi'r mater o bwerau benthyca a sut mae gan y Llywodraeth lai o allu benthyca nag awdurdodau lleol yng Nghymru. Byddem yn gobeithio y byddai hyn yn cael ei ailystyried yn y Bil hwn.

 

Yn anffodus, oherwydd yr amserlen ar gyfer ystyried y Bil yn Nhŷ'r Cyffredin,  teimlai'r Pwyllgor fod ei waith craffu wedi cael ei gwtogi a'n gallu i ddylanwadu ar hynt y Bil wedi bod yn gyfyngedig, ond rydym yn gobeithio y bydd ein hystyriaeth yn ddefnyddiol i'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.

 

Rwy'n anfon copi o'r llythyr hwn at Alun Cairns AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ac rydym yn edrych ymlaen at ganlyniad ymchwiliad eich Pwyllgor.

 

Yn gywir

Simon Thomas AC

Cadeirydd


 

Atodiad A

Cymal 12 Rheolaeth ariannol, cyfrifon ac archwilio

Diogelwch ychwanegol ynghylch awdurdodi a defnyddio adnoddau

Er bod Bil Cymru yn rhoi dioglewch o ran paratoi cyfrifon priodol a threfniadau archwilio, nid yw'n darparu:

·         mai dim ond yn unol â deddfwriaeth neu awdurdodiad gan y Cynulliad y gellir rhoi arian o Gronfa Gyfunol Cymru (WCF)

·         bod defnyddio adnoddau o'r fath yn gyfyngedig i'r diben a gafodd ei awdurdodi.

 

Darpariaeth ar gyfer atebolrwydd cyrff a ariennir yn anuniongyrchol o Gronfa Gyfunol Cymru

Nid oes unrhyw ddarpariaeth:

·         bod deddfwriaeth ddilynol yng Nghymru yn gallu gwneud darpariaeth i bersonau, y mae eu cyllid yn deillio o Gronfa Gyfunol Cymru, ond nad yw'n cael ei dynnu i lawr yn uniongyrchol ohono (ee grantiau), fod yn atebol am yr arian hwnnw.

Er bod deddfwriaeth gyfredol San Steffan a Chymru yn darparu ar gyfer cyrff fel Comisiynwyr, Cyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru (WGSB), cyrff y GIG a chyrff Llywodraeth Leol, gallai diffyg darpariaeth achosi rhai anawsterau pe bai'r Cynulliad yn dymuno deddfu ar faterion o'r fath a dylid ei chynnwys i gryfhau sefyllfa'r Cynulliad.

 

Atodlen 7B Cyfyngiadau Cyffredinol

Cydsyniad Ysgrifennydd Gwladol Cymru

Mae Paragraff 7(5)(b) o Atodlen 7B yn golygu y bydd angen cydsyniad Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y Cynulliad ar gyfer darpariaethau yn neddfwriaeth Cymru sy'n atodol neu'n ganlyniadol i ddarpariaethau sy'n ymwneud â gweithdrefnau cyllidebol neu drethi datganoledig. Nid yw'n glir pam fod angen cydsyniad gan na fydd hyn yn cael unrhyw effaith y tu hwnt i weithdrefnau ariannol y Cynulliad, felly dylid ei ddileu.

Mae Paragraff 7(6) o Atodlen 7B yn diffinio gweithdrefnau cyllidebol. Mae angen eglurhad ynghylch cynnwys y paragraff hwn.

 

Cyfansoddiad y Pwyllgor sy'n goruchwylio'r Archwilydd Cyffredinol

Mae Paragraff 5(6) o Atodlen 7B yn caniatáu ar gyfer rhoi'r swyddogaethau i oruchwylio'r Archwilydd Cyffredinol i un o Bwyllgorau'r Cynulliad (y Pwyllgor Cyllid ar hyn o bryd). Byddai Pwyllgor o'r fath yn ddarostyngedig i'r un cyfyngiadau o ran cyfansoddiad ag sydd gan y Pwyllgor Archwilio (PAC) ar hyn o bryd yn adran 30 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

O gofio y bydd y Bil yn galluogi'r Cynulliad i addasu adran 30 mae'r darpariaethau hyn yn Atodlen 7B yn cyfyngu yn ddiangen a dylid eu dileu.

 

Cymhwysedd i ychwanegu at y rhestr o 'bersonau perthnasol' - taliadau i mewn ac allan o Gronfa Gyfunol Cymru

Mae Paragraff 7(7) o Atodlen 7 yn cynnwys rhestr o “bersonau perthnasol” sy'n cael eu hariannu'n uniongyrchol gan Gronfa Gyfunol Cymru.  Dylai'r Cynulliad fod yn gallu ychwanegu at y rhestr hon, ond nid dileu unrhyw beth ohoni, er mwyn galluogi corff sy'n annibynnol ar Lywodraeth Cymru i fod yn annibynnol yn ariannol hefyd lle bo'n briodol. Byddai angen diwygio Deddf Llywodraeth Cymru 2006 drwy Fil Cymru er mwyn gwneud hynny.  Yn yr un modd, dylai'r Cynulliad fod yn gallu deddfu mewn perthynas â phersonau sy'n atebol i wneud y taliad i mewn i'r Gronfa.

 

Gwelliannau a awgrymwyd i gymalau Deddf Llywodraeth Cymru 2006 drwy Fil Cymru

Cyllideb ddeddfwriaethol

Mae Deddf Cymru 2014 yn caniatáu i'r Cynulliad symud i gyllideb ddeddfwriaethol. Mae Adran 124 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn galluogi'r Cynulliad i newid ei drefniadau cyllidebol yn y dyfodol heb yr angen am ddiwygiadau pellach drwy Ddeddf Seneddol. O ganlyniad, ni fyddai angen penderfyniad cyllidebol ar gyllideb ddeddfwriaethol, ac felly dylid dileu 'resolution' o Adran 124 a dylid cyflwyno gwelliannau canlyniadol priodol i adrannau 125 i 128.

 

Archwiliadau gan y Rheolwr a'r Archwilydd Cyffredinol

Mae Adran 136 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn rhoi mynediad i'r Rheolwr a'r Archwilydd Cyffredinol i gyrff cyhoeddus datganoledig Cymru at ddibenion archwilio gan Senedd y DU. Nid yw hyn wedi cael ei ddefnyddio hyd yn hyn, ac nid oes angen darpariaeth o'r fath yn yr Alban nac yng Ngogledd Iwerddon.

O ystyried bod Llywodraeth Cymru a'r Cynulliad yn endidau ar wahân, gellid dadlau nad oes angen y ddarpariaeth hon ar gyfer Cymru bellach ac y dylai gael ei hepgor a chyflwyno gwelliannau canlyniadol priodol i Ddeddf Archwilio Cenedlaethol 1983.

 

Deddf Llywodraeth Cymru 1998 - cymalau sydd heb eu datrys

Er bod Cymal 12 o Fil Cymru yn gwneud darpariaeth i'r Cynulliad ddeddfu ar drefniadau archwilio, byddai'r Cynulliad yn dal i fethu â deddfu ar bwerau'r Archwilydd Cyffredinol i gynnal archwiliadau gwerth am arian. Ni ellir diwygio Adrannau 145 a 145A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998, sy'n gwneud darpariaethau ar gyfer pwerau'r Archwilydd Cyffredinol i gynnal archwiliadau gwerth am arian, am eu bod wedi'u diogelu ar hyn o bryd o dan Atodlen 7 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.  

Mae hyn yn cyfyngu'r Cynulliad rhag creu set safonol o ddarpariaethau archwilio gwerth am arian ar draws yr holl gyrff cyhoeddus datganoledig. Er mwyn sicrhau bod posibilrwydd cael darpariaethau cyson ar gyfer archwiliadau gwerth am arian, dylai fod yn bosibl diwygio Adrannau 145 a 145A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.